A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: DOMDocument::loadXML(): failed to load external entity "/opt/rh/httpd24/root/var/www/yba2/bib.ent" in Entity, line: 1

Filename: controllers/Article.php

Line Number: 118

Backtrace:

File: /opt/rh/httpd24/root/var/www/yba2/application/controllers/Article.php
Line: 118
Function: loadXML

File: /opt/rh/httpd24/root/var/www/yba2/application/controllers/Article.php
Line: 77
Function: xsltTransform

File: /opt/rh/httpd24/root/var/www/yba2/index.php
Line: 315
Function: require_once

EDWARD ap ROGER (16eg. g.), casglwr llawysgrifau a bardd | Y Bywgraffiadur Cymreig

EDWARD ap ROGER (16eg. g.), casglwr llawysgrifau a bardd

Enw: Edward Ap Roger
Priod: Marged wraig Edward ap Roger
Rhiant: Gwennhwyvar verch Ed. ap M'd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: casglwr llawysgrifau a bardd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd

Yn ôl nodiadau yn llsgrau. Pen. 128 a 139 bu f. 1587. Ni wyddys ddyddiad ei eni, ond mewn englynion a gyfansoddodd yn 1587 ‘ar i glaf wely’, ceir y llinell ‘trigais agos i'r trigen’ gw. llsgr. N.L.W. 253, t. 211). Yn llsgr. Pen. 128 rhoddir enw ei fam fel Gwennhwyvar verch Ed. ap M'd, ac enw ei wraig fel Marged verch Ed. ap Rys. Enwir pymtheg o'i blant hefyd. Yn ei ach cyfeirir ato fel Edward ap Roger ap John ap Elis Eutun o Riwabon (gw. llsgrau. Pen. 74, 128, 130, 139, ac eraill). Dywedir mai hwn oedd y John ap Elis o Watstay, sir Ddinbych, a ymladdodd ar faes Bosworth yn 1485 ac y gwelir ei fedd yn eglwys Rhiwabon.

Bu llsgr. Pen. 34, 128, a B.M. Add. MS. 14967 yn ei feddiant. Gelwir y ddwy lawysgrif olaf wrth ei enw a hwyrach fod rhannau ohonynt yn ei law ef ei hun. Cyfeirir at lawysgrifau yn ei feddiant yn llsgrau. Pen. 74, 132, 134, 135, 136 a 139.

Dyddiad cyhoeddi: 1970