A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: DOMDocument::loadXML(): failed to load external entity "/opt/rh/httpd24/root/var/www/yba2/bib.ent" in Entity, line: 1

Filename: controllers/Article.php

Line Number: 118

Backtrace:

File: /opt/rh/httpd24/root/var/www/yba2/application/controllers/Article.php
Line: 118
Function: loadXML

File: /opt/rh/httpd24/root/var/www/yba2/application/controllers/Article.php
Line: 77
Function: xsltTransform

File: /opt/rh/httpd24/root/var/www/yba2/index.php
Line: 315
Function: require_once

A PHP Error was encountered

Severity: Warning

Message: DOMDocument::load(https://yba2-prawf.llgc.org.uk/assets/xml/awduron.xml): failed to open stream: HTTP request failed! HTTP/1.1 403 Forbidden

Filename: helpers/article_helper.php

Line Number: 129

Backtrace:

File: /opt/rh/httpd24/root/var/www/yba2/application/helpers/article_helper.php
Line: 129
Function: load

File: /opt/rh/httpd24/root/var/www/yba2/application/controllers/Article.php
Line: 133
Function: transformToXml

Message: DOMDocument::load(): I/O warning : failed to load external entity "https://yba2-prawf.llgc.org.uk/assets/xml/awduron.xml"

Message: Trying to get property of non-object

Filename: helpers/article_helper.php

Line Number: 137

Backtrace:

File: /opt/rh/httpd24/root/var/www/yba2/application/helpers/article_helper.php
Line: 137
Function: _error_handler

Line Number: 140

Backtrace:

File: /opt/rh/httpd24/root/var/www/yba2/application/helpers/article_helper.php
Line: 140
Function: _error_handler

File: /opt/rh/httpd24/root/var/www/yba2/application/controllers/Article.php
Line: 133
Function: transformToXml

File: /opt/rh/httpd24/root/var/www/yba2/application/controllers/Article.php
Line: 77
Function: xsltTransform

File: /opt/rh/httpd24/root/var/www/yba2/index.php
Line: 315
Function: require_once

A PHP Error was encountered

Severity: Warning

Message: DOMDocument::load(https://yba2-prawf.llgc.org.uk/assets/xml/awduron.xml): failed to open stream: HTTP request failed! HTTP/1.1 403 Forbidden

Filename: helpers/article_helper.php

Line Number: 322

Backtrace:

File: /opt/rh/httpd24/root/var/www/yba2/application/helpers/article_helper.php
Line: 322
Function: load

File: /opt/rh/httpd24/root/var/www/yba2/application/controllers/Article.php
Line: 133
Function: transformToXml

File: /opt/rh/httpd24/root/var/www/yba2/application/controllers/Article.php
Line: 77
Function: xsltTransform

File: /opt/rh/httpd24/root/var/www/yba2/index.php
Line: 315
Function: require_once

A PHP Error was encountered

Severity: Warning

Message: DOMDocument::load(): I/O warning : failed to load external entity "https://yba2-prawf.llgc.org.uk/assets/xml/awduron.xml"

Filename: helpers/article_helper.php

Line Number: 322

Backtrace:

File: /opt/rh/httpd24/root/var/www/yba2/application/helpers/article_helper.php
Line: 322
Function: load

File: /opt/rh/httpd24/root/var/www/yba2/application/controllers/Article.php
Line: 133
Function: transformToXml

File: /opt/rh/httpd24/root/var/www/yba2/application/controllers/Article.php
Line: 77
Function: xsltTransform

File: /opt/rh/httpd24/root/var/www/yba2/index.php
Line: 315
Function: require_once

A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Trying to get property of non-object

Filename: helpers/article_helper.php

Line Number: 331

Backtrace:

File: /opt/rh/httpd24/root/var/www/yba2/application/helpers/article_helper.php
Line: 331
Function: _error_handler

File: /opt/rh/httpd24/root/var/www/yba2/application/controllers/Article.php
Line: 133
Function: transformToXml

File: /opt/rh/httpd24/root/var/www/yba2/application/controllers/Article.php
Line: 77
Function: xsltTransform

File: /opt/rh/httpd24/root/var/www/yba2/index.php
Line: 315
Function: require_once

HAMER, Syr GEORGE FREDERICK (1885 - 1965), diwydiannwr a gŵr cyhoeddus | Y Bywgraffiadur Cymreig

HAMER, Syr GEORGE FREDERICK (1885 - 1965), diwydiannwr a gŵr cyhoeddus

Enw: George Frederick Hamer
Dyddiad geni: 1885
Dyddiad marw: 1965
Priod: Sybil Dorothy Vaughan Hamer née Owen
Plentyn: Shirley Margaret Wynn Hamer
Rhiant: Martha Hamer née Matthews
Rhiant: Edward Hamer
Brawd neu chwaer: T. Pryce Hamer
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: diwydiannwr a gŵr cyhoeddus
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Dyngarwch; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: James Arthur Davies

g. 19 Mawrth 1885, yn fab i Edward a Martha (g. Matthews) Hamer, Summerfield Park, Llanidloes, Tfn. Cafodd ei addysg yn ysgol ramadeg y dref honno, ac yn 1902 ymunodd â staff ffyrm ei dad, Edward Hamer a'i Gwmni, amaethwyr ar raddfa helaeth ac arloeswyr ym masnach cig oen Cymreig a gyflenwodd ofynion y teulu brenhinol dros 3 theyrnasiad. Yn 1919 daeth George yn unig berchen ffyrm o wneuthurwyr lledr ar enw'i frawd T. Pryce Hamer, a laddwyd yn Ffrainc yn Rhyfel Byd I. Pan drowyd y ffyrm yn gwmni cyfyngedig yn 1946 ef oedd cadeirydd y cyfarwyddwyr, ond pan gyfunwyd â ffyrm arall ym Meh. 1954 ymddeolodd o'r gadair a pharhau'n gyfarwyddwr. Dechreuodd ar yrfa gyhoeddus yn 1919 pan etholwyd ef ar gyngor bwrdeistref Llanidloes. Bu'n aelod tan 1954, a bu'n faer un ar ddeg o weithiau, codwyd ef yn henadur yn 1932 a chafodd ryddfraint y fwrdeistref yn 1948. Etholwyd ef ar gyngor sir Drefaldwyn yn 1929, yn henadur yn 1949, a bu'n gadeirydd yn 1951-54 ac 1956-58. Ef oedd cadeirydd pwyllgor addysg y sir, 1947-51. Bu'n ynad heddwch o 1932, a bu'n gadeirydd mainc Llanidloes a phwyllgor ynadon y sir. Ef oedd uchel siryf Maldwyn yn 1949. O'r tu allan i'r sir bu'n aelod o Gyngor Cymru, 1949-54, ac 1956-59, Cyngor Ymgynghorol Canolog Addysg Cymru, 1945-49, Cyngor Ymgynghorol B.B.C. (Cymru), 1946-49, a'r Cyd-bwyllgor Addysg Cymreig. Bu'n gadeirydd Cyngor Ymgynghorol Bwrdd Nwy Cymru ac yn aelod o'r Bwrdd Nwy, 1949-58. Bu'n llywydd Urdd S. Ioan, Cymdeithas Sgowtiaid, a Chymdeithas Caeau Chwarae sir Drefaldwyn. Bu'n aelod o lysoedd holl golegau Prifysgol Cymru ac o lys y Brifysgol ei hun, llys a chyngor A.G.C. a llys Ll.G.C., Cyngor Datblygu Gogledd Cymru, Awdurdod Heddlu Canolbarth Cymru (is-gadeirydd hefyd), Cymdeithas Ddiwydiannol Cymru (is-lywydd hefyd), a phwyllgor cyffredinol Cyngor Diogelu Cymru Wledig. Ef oedd cadeirydd Clwb Bechgyn Llanidloes o'i ddechreuad yn 1937. Ymdaflodd yn llwyr i fywyd ei gymuned yn ei holl agweddau, ond fe ddichon mai ei gyfraniad mwyaf arwyddocaol oedd yr arweiniad cadarn a galluog a roes i'r gwasanaeth addysg yng ngweithrediad Deddf Addysg Butler yn 1944. Deilliai ysbrydoliaeth ei athroniaeth addysg i'r 20fed g. oddi wrth y ddau aelod seneddol Rhyddfrydol dros sir Drefaldwyn a chwaraeodd ran arwyddocaol yn natblygiad addysg ganol ac uwch yng Nghymru yn y 19eg g. — yr Arglwydd Stuart Rendel ac A.C. Humphreys Owen.

Pr. Sybil Dorothy Vaughan Owen (uchel siryf Maldwyn, 1958), trydedd ferch Dr. John Vaughan ac Emma Wigley (g. Davies) Owen yn eglwys Llanidloes 1 Gorff. 1920. Bu iddynt un ferch, Shirley Margaret Wynn, yr Arglwyddes Hooson. Bu Syr George f. ar 3 Chwef. 1965 a chladdwyd ef yn Llanidloes.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: